SL(5)148 - Rheoliadau Tynnu Dŵr a’i Gronni (Esemptiadau) 2017

Cefndir a diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer esemptiadau o'r cyfyngiad ar dynnu a'r cyfyngiad ar waith cronni yn Neddf Adnoddau Dŵr 1991 (c. 57).

Gweithdrefn

Negyddol

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offerynnau hyn:

1.  Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud yn Saesneg yn unig (Rheol Sefydlog 21.2(ix).  Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod y Rheoliadau, sy'n Offerynnau Statudol cyfansawdd, yn berthnasol i Gymru a Lloegr ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU.  Felly, ni ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol [gan Weinidogion Cymru] i’r Offerynnau hyn gael eu gwneud yn ddwyieithog.

Craffu ar y rhinweddau

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offerynnau hyn.

Y Goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offerynnau hyn:

2.   Mae'r diffiniad o 'safle cadwraeth' yn rheoliad 2 yn cyfeirio at restr a ddarparwyd i'r Comisiwn Ewropeaidd.  Mae'r troednodyn yn egluro bod y rhestr ar gael gan Lywodraeth Cymru a DEFRA hefyd, fel na fyddai'r ddarpariaeth yn peidio â gweithio ar ôl i'r DU adael yr UE.  Mae'n bosibl y bydd yn ddymunol diwygio'r ddarpariaeth, ond ni fyddai gwneud hynny'n hanfodol oni bai a hyd nes y credid ei bod yn briodol diwygio'r rhestr, gan na fyddai unrhyw restr newydd yn cael ei darparu i'r Comisiwn.  Byddai'n briodol i Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio'r ddarpariaeth gan ddefnyddio'r pwerau y dibynnir arnynt i wneud y Rheoliadau hyn.

3.   Mae'r Rheoliadau hefyd yn cynnwys nifer o gyfeiriadau at Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010.  Trosglwyddodd y Rheoliadau hynny un o Gyfarwyddebau'r Cyngor, sef 92/43/EEC, ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt ('y Gyfarwyddeb Cynefinoedd'). Bydd angen eu hadolygu yng nghyd-destun ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd.  Bryd hynny, felly, bydd angen adolygu'r cyfeiriadau a wneir yn y Rheoliadau presennol at Reoliadau 2010 hefyd.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

 

 

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Tachwedd 2017